top of page

Y Rhaglen Twf Personol a Lles

Y cymhwyster

Er mwyn ennill y cymhwyster BTEC Lefel 1 a 2 mewn Twf a Lles Personol, rhaid bod myfyrwyr wedi eu cofrestru gyda ni.

Mae hyn yn ein galluogi i reoli'r cyfrifoldebau dilysu ac achredu, Sicrhau Ansawdd Mewnol a chyhoeddi tystysgrifau

Beth yw'r Rhaglen Twf a Lles Personol?

Dyluniwyd ein Rhaglen Twf a Lles Personol ar gyfer myfyrwyr ysgolion uwchradd ledled y Deyrnas Unedig, ac mae'n cefnogi'r broses o gyflwyno cymwysterau BTEC Lefel 1 a 2 mewn Twf a Lles Personol. Mae yna ddwy elfen i'r Rhaglen Twf a Lles Personol: yr adnodd a'r cymhwyster.

 

 

 

 

 

 

 

Mae'n hawdd dechrau arni - ffoniwch ni neu llenwch ein ffurflen gysylltu er mwyn i ni gysylltu â chi. Gallwn esbonio sut mae popeth yn gweithio ac ateb eich holl gwestiynau.

Yr adnodd

Yr adnodd Twf a Lles Personol yw sylfaen y Rhaglen, ac mae'n gyfres o unedau y mae myfyrwyr yn gweithio trwyddynt yn y dosbarth.

 

Bydd angen un adnodd i bob dysgwr (ar gael fel cyfres o wyth llyfr gwaith neu fel cwrs wyth-uned ar-lein).

Yr unedau

Sam_edited.png

Llyfr 1

Heini a Hapus!

Cynnal lechyd a les corfforol

Iechyd corfforol, maeth, cywilyddio corff a phositifrwydd corff, pwysigrwydd cwsg, alcohol, cyffuriau a delio ag argyfyngau meddygol.

Alys_edited.png

Llyfr 2

Dwin Teimlo'n...

Gwerthfawrogi Lles Emosiynol

Iechyd meddwl, lles ac effaith cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys trafodaethau am olygu ffotograffau ac apiau fel Instragram, Snapchat a TikTok).

Finn_edited.png

Llyfr 3

Sgiliau i Lwyddo!

Datblygu lechyd a Lles Cymdeithasol

Pwysau gan gyfoedion, bwlio, perthnasoedd ar-lein, nodweddion gwarchodedig, gwahaniaethu a throseddau casineb (gan gynnwys trafodaethau am rywedd, rhywioldeb, oed, hil ac ethnigrwydd).

Xina_edited.png

Llyfr 4

Dewch i Ni Siarad Am...

Cynnal lechyd a Lles Rhywiol

Iechyd rhywiol, cydsyniad, camfanteisio, taro'r bai ar y dioddefwr, atal cenhedlu, Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs), beichiogrwydd, materion LGBT+ a thrais yn erbyn menywod (gan gynnwys edrych yn fanwl ar achos Sarah Everard ac adolygiad Ofsted o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, 2021).

Imran_edited.png

Llyfr 5

Dyma Fi!

Archwilio Hunaniaeth Bersonol

Sut mae ein hunaniaeth bersonol yn cael ei siapio a sut y dylanwadir arni, beth sy'n ein gwneud ni'n unigryw, sut i wella hunan-barch, agwedd, credoau, gwerthoedd a dysgu sut i uniaethu ag eraill.

Mo_edited.png

Llyfr 6

Ein Byd, Ein Dyfodol

Hybu Ymwybyddiaeth Amgylcheddol

Newid hinsawdd, bioamrywiaeth, llygredd, olion traed carbon,  sefydliadau ac ymgyrchoedd amgylcheddol, ailgylchu a byw’n ddiblastig.

Aisha_edited.png

Llyfr 7

Ceiniog, Cyflog, Cyfoeth

Ymwybyddiaeth Ariannol

Addysg ariannol, arbed arian, talu biliau, rheoli cyllideb, darllen slipiau cyflog, deall didyniadau a pheryglon gamblo.

Salima_edited.png

Llyfr 8

Dewis Rolau a Gosod Nodau

Creu Cynllun Dilyniant Tymor Hir

Cynlluniau dilyniant, gyrfaoedd, nodau byrdymor a hirdymor, dadansoddiadau o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau, ceisiadau am swyddi, CVs, datganiadau personol a chyfweliadau.

Defnyddio'r adnodd

Caiff yr adnodd Twf a Lles Personol ei fapio yn erbyn cwricwlwm Cymru a chwricwlwm Lloegr. Yn Lloegr, mae'r adnodd yn cwmpasu holl ragofynion Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (PSHE) ac Addysg Cydberthnasau a Rhyw (RSE). Yng Nghymru, mae'r adnodd yn bodloni holl ffrydiau'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles newydd, yn ogystal â'r rhagofynion ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac Addysg Cydberthnasau a Rhyw.

 

Mae'r Rhaglen Twf a Lles Personol yn hyblyg a gellir ei chyflwyno yn ystod amser ABCh/ABGI, mewn pynciau craidd (gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol), neu hyd yn oed fel opsiwn ar ei ben ei hun. Mae'r adnodd ar gael ar ddwy ffurf wahanol: naill ai fel cyfres o lyfrau gwaith sy'n gopïau caled, neu fel cwrs ar-lein.

 

Gellir addasu'r adnodd at bob dysgwr, a gellir dangos tystiolaeth o'r deilliannau dysgu ar sawl ffurf wahanol. Mae'n berffaith i bob myfyriwr 11 i 16 oed, waeth beth yw eu cefndir, amgylchiadau neu fath o ddarpariaeth addysgol.

Maint cymwysterau

Gellir cyflwyno’r cymhwyster Twf Personol a Lles ar wahanol lefalau a meintiau. Gall canolfannau ddewis pa faint a lefel cymhwyster yr hoffent ei gyflwyno yn dibynnu ar faint o amser sydd ganddynt i gwblhau’r cymhwyster ynghyd a gallu y dysgwyr.

I gael rhagor o wybodaeth am faint y cymhwysterau a sut maent yn cyfateb i TGAU, gweler ein taflenni ar waelod y dudalen hon.

Pris

Gellid codi TAW a chostau postio ar ben y prisiau hyn.

Adnodd

 

Cost fesul dysgwr:

Llyfrau gwaith (set o 8):             £25.95

mewngofnodi e-Sweet:              £17.95

Llyfrau gwaith + mewngofnodi
e-Sweet:                                               
£33.95

 

Codir tâl am bostio llyfrau gwaith, a bydd y gost yn cael ei chyfrifo wrth i chi fynd ati i dalu.

Artboard 26.png

Cymhwyster

 

Mae Sweet yn cynnig gwasanaeth a reolir yn llawn, sy'n cynnwys yr holl:

  • weinyddiaeth

  • Cofrestru

  • Dilysu

  • Cyfrifoldebau achredu ac ardystio

  • Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Mewnol

  • Cefnogaeth barhaus ar-lein,     e-bost, a ffôn

  • Dau ymweliad â chanolfan

Tystysgrif Estynedig:                   £99.00

Tystysgrif:                                           £78.75

Gwobr:                                                  £49.50

Gwobr Ategol:                                  £34.25

(+ TAW)

Hyfforddiant

 

Cost fesul person:                               £275

(+ TAW) 

 

Rhaid i bob canolfan newydd gael hyfforddiant i'ch helpu i ddeall sut i gyflwyno'r Rhaglen Twf a Lles Personol a sut i'w hasesu.

Sesiwn o 2-3 awr, dros Microsoft Teams.

Artboard 21_2x.png

Sut ydw i'n dechrau arni?

Daliwch eich cyrchwr dros y camau isod i gael rhagor o wybodaeth.

Artboard 28.png

1

Archebwch becyn enghreifftiol rhad ac am ddim a gofynnwch am sgwrs gydag aelod o'n tîm.

Ewch i Siop Llwyddo a gofynnwch am sgwrs gyda ni. Gallwn anfon pecyn enghreifftiol rhad ac am ddim i'ch canolfan gyda'r cod FREEPGW. Unwaith fyddwch wedi cael eich pecyn, porwch trwyddo i weld beth ry'ch chi'n ei feddwl! Gallwch hefyd siarad â ni er mwyn i ni ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am y Rhaglen Twf a Lles Personol.

2

Trefnu sesiwn hyfforddiant gydag un o aelodau hyfryd ein tîm.

Rhaid i ganolfannau newydd gael hyfforddiant, oherwydd byddwn yn eich helpu i ddeall y cymhwyster a'r broses asesu yn fanylach. Ry'n ni'n dîm bach hyblyg, felly anfonwch e-bost atom gydag ambell i ddyddiad sy'n iawn i chi, ac fe fyddwn ni'n hapus i drefnu slot i chi. Cost yr hyfforddiant yw £275 ac mae'n cael ei gyflwyno dros Teams. Bydd angen i chi neilltuo 2-3 awr i gwblhau’r hyfforddiant ac unwaith fyddwch chi wedi gorffen gallwch lenwi eich Cytundeb Partneriaeth.

3

Archebu'r holl adnoddau angenrheidiol ar gyfer eich dysgwyr.

Ewch yn ôl i Siop Llwyddo i archebu. Bydd angen un pecyn i bob dysgwr a bydd angen i chi ddewis pa lefel ac iaith yr ydych am eu harchebu. Os ydych yn dewis archebu llyfrau gwaith sy'n gopïau caled, byddwn yn eu pacio ac yn eu danfon i'ch canolfan. Os ydych yn dewis mewngofnodi i e-Sweet, byddwn yn eich gosod ar y llwyfan digidol ar unwaith, a gallwch ddechrau ychwanegu eich dysgwyr.

4

Cofrestrwch eich dysgwyr gyda ni er mwyn iddynt ennill eu cymhwyster.

Rydym yn cofrestru eich dysgwyr gyda'r sefydliad dyfarnu ar eich rhan. Mae hyn yn bwysig iawn, ac mae'n ein galluogi i reoli'r broses ansawdd, cwblhau'r broses ddilysu fewnol a hawlio'r cymhwyster i'ch dysgwyr wedi iddynt gwblhau'r rhaglen. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi gwybodaeth sylfaenol i ni, gan ddefnyddio'r OneDrive.

5

Ewch amdani! Nawr, gallwch ddechrau arni gyda'ch dysgwyr.

Mae'r Rhaglen Twf a Lles Personol yn hyblyg iawn ac yn hawdd ei chyflwyno, felly unwaith fydd popeth yn barod, ewch amdani! Rydym wrth law i helpu gydag unrhyw beth, ac yn hapus i gael sgwrs bob tro. Felly, dechreuwch arni gyda'ch dysgwr, rhyfeddwch ar eu gwaith gwych a mwynhewch siwrnai Llwyddo gan wybod ein bod ni yno i'ch cefnogi ar bob adeg. 😊

Untitled design (82).png
Artboard 25.png
8Asset 19.png
Artboard 22_2x.png
bottom of page