top of page

Am ymholiadau cyffredinol neu am sgwrs anffurfiol, cysylltwch ag aelod o’n tîm ymroddedig.  

Os ydych eisoes yn ganolfan Llwyddo a bod gennych gwestiwn penodol am y broses dilysu mewnol neu eich carfan o ddysgwyr, cysylltwch â ni. 

Cwrdd â'r Tîm

Artboard 12_2x.png
Annabel Bio Pic.webp

Annabel Harries

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

 

Cyn ymuno â thîm Llwyddo, treuliodd Annabel sawl blwyddyn yn gweithio fel athrawes ysgol uwchradd yng Nghymru a Sbaen. Ar ôl cwblhau’r Rhaglen Datblygu Arweinyddiaeth a chael ei chymhwyster addysgu gyda Teach First, aeth ymlaen i ennill gradd meistr mewn Addysg.

 

Mae Annabel yn rheoli gwerthiant Llwyddo ac yn sicrhau bod canolfannau'n ymwybodol o'r buddion anhygoel y gall y cymhwyster ei gynnig i ddysgwyr.

 

Mae Annabel yn angerddol am ddatblygu iechyd meddwl, lles a sgiliau bywyd plant a phobol ifanc trwy hybu’r adnodd Llwyddo.

Lindsay2-WEB.jpg

Lindsay Donovan-Lacey

Dilysydd Mewnol (Cymraeg a Saesneg)

 

Mae Lindsay yn gyn-athro Ieithoedd Tramor Modern a Chymraeg Ail iaith gydag 8 mlynedd o brofiad mewn ysgol gyfun cyfrwng Saesneg. Mae’n angerddol am ieithoedd ac mae’n dysgu Eidaleg ar hyn o bryd, ei chweched iaith! 

Yn ystod ei gyrfa, mae Lindsay wedi croesawu swyddi rheolwr canol yn cynnwys Pennaeth Adran a Chyfadran. 

Mae’n awyddus i gyfleu buddion cymwysterau Llwyddo, sydd yn helpu dysgwyr ifanc i gael sgiliau bywyd a chymwysterau gwerthfawr mewn ffordd hygyrch. 

Untitled design (40)_edited.png

Carys Watts

Gweinyddwr

 

Mae Carys yn gyn athrawes Addysg Gorfforol ac wedi dysgu trwy gyfrwmg y Gymraeg mewn ysgolion Uwchradd ar hyd ei gyrfa. Yn ogystal ag Addysg Gorfforol, mae Carys hefyd wedi dysgu BTEC Iechyd a Gofal, Gwasanaethau Cyhoeddus i ddisgyblion TGAU a Lefel A.

Mae gan Carys brofiad o weithio yn Chwaraeon Cymru fel cynghorydd i athletwyr elitaidd. Ei phrif rol oedd i helpu’r athletwyr i gydbwyso eu gyrfaoedd chwaraeon gydag agweddau gwahanol o’u bywyd, fel, gwaith rhan amser/cyrsiau ac i rhoi’r sgiliau i ddelio gyda bywyd ar ol eu dyddiau perfformio a chystadlu. Yn ystod yr amser yma, daeth yn amlwg i Carys bod cydbwysedd bywyd yn hanfodol i hapusrwydd.

 

Mae Iechyd a Lles yn bwysig iawn i Carys. Mae hi’n teimlo’n gryf am y cymhwyster Twf Personol a Lles ac yn gyffrous i drosglwyddo’r sgiliau yma i bobl ifanc

martinWEB_edited.jpg

Martin Griffiths

Dilysydd Mewnol

Mae Martin yn addysgwr profiadol sydd wedi cael swyddi rheoli mewn amrywiaeth o ddarpariaethau addysg a dysgu’n seiliedig ar gyflogadwyedd amgen. 

Ymunodd â Thîm Llwyddi yn 2017 ac mae’n dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad gydag ef am gymwysterau galwedigaethol o gefndir addysgu a sicrhau ansawdd. 

Mae Martin yn angerddol am gefnogi pobl ifanc i gael addysg holistaidd sydd yn gallu cynorthwyo cynnydd ac ansawdd bywyd trwy ddysgu. 

Natalie-BW.jpg

Natalie Allsup

Dilysydd Mewnol (Cymraeg a Saesneg)

 

Ymunodd Natalie â Thîm Llwyddo yn 2019, yn dilyn naw mlynedd yn gweithio ym maes addysg uwchradd. Wedi'i lleoli yn Ysgol Syr Hugh Owen yng

 

Nghaernarfon, ei ffocws oedd cefnogi dysgwyr ag anghenion ymddygiadol a dysgu ychwanegol. Mae ganddi brofiad eang o gyflwyno Rhaglen Datblygiad Personol a Chymdeithasol

 

Natalie yw prif gyswllt Rhaglen Llwyddo ar gyfer ysgolion a chanolfannau ar draws Gogledd Cymru.

Artboard 1_2x.webp

Ozzy

Uwch-swyddog Cymorth Emosiynol

 

Ozzy yw'r athrylith tu ôl i Llwyddo. Neu, yn ei eiriau doeth ef ei hun: "wff, wff, cyfarth, cyfarth".

 

Os oes gennych gwestiynau cyffredinol neu os hoffech sgwrs anffurfiol, cysylltwch â ni.

MikeSweet_400Web.jpg

Michael Hargreaves

Dilysydd Mewnol

Ymunodd Michael â thîm Llwyddo yn 2019. Mae Michael yn diwtor, hyfforddwr, mentor ac asesydd profiadol gyda bron i 15 mlynedd o brofi gwella cyflogadwyedd myfyrwyr a graddedigion mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion. 

 

Mae e wedi cyflwyno amrywiaeth eang o gymwysterau o unedau BTEC OCN a chyflwyno cymhwysterau City & Guilds ac ILM. 

Laura Bio2.png

Laura Atkinson

Swyddog Marchnata a Chyfathrebu

 

Ymunodd Laura â Llwyddo yn 2021 ar ôl 4 mlynedd yn y diwylliant dyfeisiau meddygol. Gyda gradd mewn Ffotograffiaeth a Newyddiaduraeth o Brifysgol Caer, mae Laura hefyd wedi treulio amser yn gweithio fel gohebydd, cyn dod o hyd i’w galwedigaeth o fewn y maes Marchnata yn 2014.

Mae Laura yn angerddol am bob agwedd o farchnata, ond yn arbennig wrth eu bodd yn creu cynnwys ac yn ymchwilio i fewn i ddata dadansoddol. Hi yw'r llais tu ôl i'n holl dudalennau cyfryngau cymdeithasol, felly peidiwch â bod ofn o alw heibio a dweud Helo!

 

Gan weithio'n agos gyda'i 'phartner mewn dylunio', mae Laura yn gyfrifol am reoli a diweddaru gwefan Llwyddo a gweithgareddau marchnata eraill Llwyddo.

bottom of page