Y Rhaglen Twf Personol a Lles
Y cymhwyster
​
Er mwyn ennill y cymhwyster BTEC Lefel 1 a 2 mewn Twf a Lles Personol, rhaid bod myfyrwyr wedi eu cofrestru gyda ni.
​
Mae hyn yn ein galluogi i reoli'r cyfrifoldebau dilysu ac achredu, Sicrhau Ansawdd Mewnol a chyhoeddi tystysgrifau
Beth yw'r Rhaglen Twf a Lles Personol?
​
Dyluniwyd ein Rhaglen Twf a Lles Personol ar gyfer myfyrwyr ysgolion uwchradd ledled y Deyrnas Unedig, ac mae'n cefnogi'r broses o gyflwyno cymwysterau BTEC Lefel 1 a 2 mewn Twf a Lles Personol. Mae yna ddwy elfen i'r Rhaglen Twf a Lles Personol: yr adnodd a'r cymhwyster.
​
​
​
​
​
​
Mae'n hawdd dechrau arni - ffoniwch ni neu llenwch ein ffurflen gysylltu er mwyn i ni gysylltu â chi. Gallwn esbonio sut mae popeth yn gweithio ac ateb eich holl gwestiynau.
Yr adnodd
​
Yr adnodd Twf a Lles Personol yw sylfaen y Rhaglen, ac mae'n gyfres o unedau y mae myfyrwyr yn gweithio trwyddynt yn y dosbarth.
Bydd angen un adnodd i bob dysgwr (ar gael fel cyfres o wyth llyfr gwaith neu fel cwrs wyth-uned ar-lein).
Yr unedau

Llyfr 1
​
Heini a Hapus!
Cynnal lechyd a les corfforol
Iechyd corfforol, maeth, cywilyddio corff a phositifrwydd corff, pwysigrwydd cwsg, alcohol, cyffuriau a delio ag argyfyngau meddygol.

Llyfr 2
​
Dwin Teimlo'n...
Gwerthfawrogi Lles Emosiynol
Iechyd meddwl, lles ac effaith cyfryngau cymdeithasol (gan gynnwys trafodaethau am olygu ffotograffau ac apiau fel Instragram, Snapchat a TikTok).

Llyfr 3
​
Sgiliau i Lwyddo!
Datblygu lechyd a Lles Cymdeithasol
Pwysau gan gyfoedion, bwlio, perthnasoedd ar-lein, nodweddion gwarchodedig, gwahaniaethu a throseddau casineb (gan gynnwys trafodaethau am rywedd, rhywioldeb, oed, hil ac ethnigrwydd).

Llyfr 4
​
Dewch i Ni Siarad Am...
Cynnal lechyd a Lles Rhywiol
Iechyd rhywiol, cydsyniad, camfanteisio, taro'r bai ar y dioddefwr, atal cenhedlu, Heintiau a Drosglwyddir yn Rhywiol (STIs), beichiogrwydd, materion LGBT+ a thrais yn erbyn menywod (gan gynnwys edrych yn fanwl ar achos Sarah Everard ac adolygiad Ofsted o aflonyddu rhywiol mewn ysgolion, 2021).

Llyfr 5
​
Dyma Fi!
Archwilio Hunaniaeth Bersonol
Sut mae ein hunaniaeth bersonol yn cael ei siapio a sut y dylanwadir arni, beth sy'n ein gwneud ni'n unigryw, sut i wella hunan-barch, agwedd, credoau, gwerthoedd a dysgu sut i uniaethu ag eraill.

Llyfr 6
​
Ein Byd, Ein Dyfodol
Hybu Ymwybyddiaeth Amgylcheddol
Newid hinsawdd, bioamrywiaeth, llygredd, olion traed carbon, sefydliadau ac ymgyrchoedd amgylcheddol, ailgylchu a byw’n ddiblastig.

Llyfr 7
​
Ceiniog, Cyflog, Cyfoeth
Ymwybyddiaeth Ariannol
Addysg ariannol, arbed arian, talu biliau, rheoli cyllideb, darllen slipiau cyflog, deall didyniadau a pheryglon gamblo.

Llyfr 8
​
Dewis Rolau a Gosod Nodau
Creu Cynllun Dilyniant Tymor Hir
Cynlluniau dilyniant, gyrfaoedd, nodau byrdymor a hirdymor, dadansoddiadau o gryfderau, gwendidau, cyfleoedd a bygythiadau, ceisiadau am swyddi, CVs, datganiadau personol a chyfweliadau.
Defnyddio'r adnodd
Caiff yr adnodd Twf a Lles Personol ei fapio yn erbyn cwricwlwm Cymru a chwricwlwm Lloegr. Yn Lloegr, mae'r adnodd yn cwmpasu holl ragofynion Addysg Bersonol, Gymdeithasol ac Iechyd (PSHE) ac Addysg Cydberthnasau a Rhyw (RSE). Yng Nghymru, mae'r adnodd yn bodloni holl ffrydiau'r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles newydd, yn ogystal â'r rhagofynion ar gyfer Addysg Bersonol a Chymdeithasol ac Addysg Cydberthnasau a Rhyw.
Mae'r Rhaglen Twf a Lles Personol yn hyblyg a gellir ei chyflwyno yn ystod amser ABCh/ABGI, mewn pynciau craidd (gan gynnwys Mathemateg, Gwyddoniaeth ac Addysg Gorfforol), neu hyd yn oed fel opsiwn ar ei ben ei hun. Mae'r adnodd ar gael ar ddwy ffurf wahanol: naill ai fel cyfres o lyfrau gwaith sy'n gopïau caled, neu fel cwrs ar-lein.
Gellir addasu'r adnodd at bob dysgwr, a gellir dangos tystiolaeth o'r deilliannau dysgu ar sawl ffurf wahanol. Mae'n berffaith i bob myfyriwr 11 i 16 oed, waeth beth yw eu cefndir, amgylchiadau neu fath o ddarpariaeth addysgol.
Maint cymwysterau
Gellir cyflwyno’r cymhwyster Twf Personol a Lles ar wahanol lefalau a meintiau. Gall canolfannau ddewis pa faint a lefel cymhwyster yr hoffent ei gyflwyno yn dibynnu ar faint o amser sydd ganddynt i gwblhau’r cymhwyster ynghyd a gallu y dysgwyr.
​
I gael rhagor o wybodaeth am faint y cymhwysterau a sut maent yn cyfateb i TGAU, gweler ein taflenni ar waelod y dudalen hon.
Pris
Gellid codi TAW a chostau postio ar ben y prisiau hyn.
Adnodd
Cost fesul dysgwr:
​
Llyfrau gwaith (set o 8): £26.95
Llyfr unigol: £5.00
Mewngofnodi e-Sweet: £18.95
​
Codir tâl am bostio llyfrau gwaith, a bydd y gost yn cael ei chyfrifo wrth i chi fynd ati i dalu.
​
Cymhwyster
Mae Sweet yn cynnig gwasanaeth a reolir yn llawn, sy'n cynnwys yr holl:
-
weinyddiaeth
-
Cofrestru
-
Dilysu
-
Cyfrifoldebau achredu ac ardystio
-
Cyfarfodydd Sicrhau Ansawdd Mewnol
-
Cefnogaeth barhaus ar-lein, e-bost, a ffôn
-
Dau ymweliad â chanolfan
​
Tystysgrif Estynedig: £109.85
Tystysgrif: £86.64
Gwobr: £53.10
Gwobr Ategol: £36.15
(+ TAW)
Hyfforddiant
Aelod cyntaf o staff: £275
Aelodau staff ychwanegol: £100
(+ TAW)
​
Rhaid i bob canolfan newydd gael hyfforddiant i'ch helpu i ddeall sut i gyflwyno'r Rhaglen Twf a Lles Personol a sut i'w hasesu.
​
Sesiwn o 2-3 awr, dros Microsoft Teams.