Croeso i’n Dilysydd Mewnol newydd, Mike!
22 Gorffennaf
Mae Tîm Llwyddo* yn falch iawn o gyhoeddi bod Dilysydd Mewnol newydd arall yn ymuno a ni, Mike!
Mae Mike wedi bod yn cyflwyno Rhaglen Llwyddo* yn Ysgol Cwm Brombil a bydd yn ymuno â'r tîm yn rhan amser i gefnogi canolfannau ledled De-orllewin Cymru.
Os nad ydych chi wedi clywed eisoes gan Mike, bydd yn cysylltu â chi dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i gyflwyno ei hun ac i drefnu cyfarfodydd.
Croeso i’n Dilysydd Mewnol newydd, Natalie!
17 Mehefin
Rydym yn gyffrous iawn i groesawu ein Dilysydd Mewnol Natalie newydd Dîm Llwyddo*!
Mae Natalie wedi bod yn cyflwyno Rhaglen Llwyddo* yn Ysgol Syr Huw Owen a bydd yn ymuno â'r tîm yn llawn amser. Wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru, hi fydd y prif gyswllt ar gyfer canolfannau ac ysgolion ar draws Gwynedd, Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys o fis Medi 2019 ymlaen.
Dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf, gallwch ddisgwyl clywed gan Natalie a fydd yn cysylltu ag ysgolion i gyflwyno ei hun ac i drefnu cyfarfodydd.
​
Dywed Natalie: “Ar ôl gweithio yn Ysgol Syr Hugh Owen am 9 mlynedd, rydw i'n awr yn barod am her newydd. Mae gen i brofiad eang o gyflwyno Llwyddo* yn yr ystafell ddosbarth ac rwy'n awyddus i gefnogi ysgolion ar draws Gogledd Cymru wrth iddynt gyflwyno'r rhaglen. Edrychaf ymlaen at gyfarfod a gweithio gyda chi i gyd. ”
Peidiwch ag anghofio rhoi eich archeb lyfrau i'w dosbarthu ar 5 Gorffennaf!
10 Mehefin
​
Mae'r amser hwn o'r flwyddyn yn hynod o brysur i chi ac i ni gydag ysgolion yn canolbwyntio ar sicrhau bod dysgwyr Blwyddyn 11 yn cyflawni rhaglen Llwyddo a ninnau’n sicrhau eich bod yn derbyn eich tystysgrifau mewn pryd!
Rydym wedi pennu Dydd Gwener 5 Gorffennaf fel diwrnod dosbarthu llyfrau. Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn eich archeb llyfrau cyn diwedd y flwyddyn academaidd, gosodwch eich archeb erbyn Dydd Gwener 21 Mehefin fan bellaf.
​
ARCHEBWCH ADNODDAU
Mae eich barn yn bwysig...
25 Mai
... Dyna pam y byddwn yn anfon ffurflenni adborth ar-lein y mis nesaf. Cadwch lygad ar eich negeseuon e-bost am y rhain gan y byddem wir yn gwerthfawrogi eich adborth a'ch mewnbwn.
Bydd dau holiadur ar wahân, un ar gyfer darparwyr ac aseswyr, a dylai'r ddau gymryd tua 5 munud i'w cwblhau.
Gostyngiad o 10% ar bob archeb adnoddau E3!
25 Ebrill
Mae'r adnodd Lefel Mynediad 3 hir-ddisgwyliedig bellach yn barod i’w harchebu! Bydd pob archeb a osodir yn derbyn gostyngiad o 10%!
Mae'r adnodd yn cynnwys nifer o friffiau aseiniad sy'n cefnogi dysgwyr i gyflawni BTEC Lefel Mynediad 3 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol.
Ar gyfer pwy mae'r adnodd hwn?
Mae'r adnodd E3 wedi'i ddylunio ar gyfer dysgwyr o allu is nad yw’r adnodd Lefel 1/2 yn addas ar eu cyfer. Mae hyn yn ddelfrydol ar gyfer ysgolion arbennig, unedau cyfeirio disgyblion, darparwyr cwricwlwm amgen ac ysgolion sy'n chwilio am ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr anghenion ychwanegol.
Cyflwyno’r adnodd E3
Gellir cyflwyno'r adnodd fel pwnc galwedigaethol annibynnol. Mae gan ddysgwyr yr opsiwn i symud ymlaen i'r adnodd Lefel 1/2 os ystyrir bod hyn yn briodol.
Lansiad adnodd newydd Lefel Mynediad 3!
18 Ebrill
Mae datblygiadau cyffrous wedi bod yn digwydd yn ein tîm, ac mae ein hadnodd newydd Lefel Mynediad 3 bellach ar gael!
​
Mae'r adnodd wedi'i ddylunio'n benodol i gefnogi cyflwyno sgiliau bywyd a chyflogadwyedd pwysig ac mae'r gweithgareddau'n addas ar gyfer dysgwyr sydd angen cymorth ychwanegol gyda'u dysgu.
​
Mae'r adnodd yn canolbwyntio ar chwe maes allweddol:
​
-
Dilyniant Gyrfa
-
Gallu Ariannol
-
Hawliau a Chyfrifoldebau
-
Cymdeithas yn y DU
-
Cynaliadwyedd
-
Gweithio'n Dda mewn Tîm
Diweddariadau cyffrous i'n hadnoddau Lefel 1 a 2 yn dod yn fuan!
18 Mawrth
Mae Tîm Llwyddo* wedi bod yn brysur yn diweddaru ein hadnoddau Lefel 1 a 2 i sicrhau eu bod yn cefnogi cyflwyniad Cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus Donaldson.
Bydd y newidiadau yn adlewyrchu’r meysydd Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles.
Rydym yn ychwanegu cyfoeth o weithgareddau i gefnogi cyflwyno pynciau pwysig gan gynnwys:
-
LHDTC+
-
Caniatâd
-
Trais yn y cartref
-
Cynnal iechyd meddwl cadarnhaol
Bydd yr adnoddau yma ar gael o Haf 2019 a bydd dyddiad lansio penodol yn cael ei gyfathrebu yn fuan. Byddwch y cyntaf i glywed am y diweddariadau cyffrous yma:
TANYSGRIFIWCH I’N RHESTR EBOST
Sêl diwedd y flwyddyn ariannol!
Rydym yn falch i gynnig gostyngiad o 10% ar holl archebion llyfrau adnodd Lefel 1/2 Llwyddo* a osodwyd cyn 31ain o Fawrth!
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod
-
Prynwch 100 neu ragor o lyfrau L1/2 er mwyn derbyn gostyngiad o 10% ar eich archeb! Dyna arbediad o £ 1.99 y dysgwr!
-
Archebion i'w gosod rhwng 11/3/19 - 31/3/19
-
Bydd eich ysgol/canolfan yn cael ei anfonebu wrth archebu
-
Bydd y taliad yn ddyledus erbyn 30/4/19
ARCHEBWCH NAWR
TeachMeet diweddaraf yn llwyddiant
Roedd trydydd TeachMeet Llwyddo*, a gynhaliwyd yn ysgol Gyfun Treforys Ddydd Iau 7fed o Fawrth yn llwyddiant ysgubol.
Diolch yn fawr i Mike Hargreaves o Ysgol Cwm Brombil a Graziella Fiorillo o Ysgol Gyfun Gatholig St. John Lloyd am rannu eu profiadau o gyflwyno Llwyddo* yn eu canolfannau.
​
Dilynwch ni ar Twitter am fanylion ein TeachMeet nesaf.
TeachMeet Llwyddo* yn dod yn fuan!
Rydym yn falch iawn i gynnal ein trydydd digwyddiad TeachMeet ym mis Mawrth yn Ysgol Gyfun Treforys.
Mae'r digwyddiad rhad ac am ddim hwn yn agored i bawb, waeth a ydych chi'n cyflwyno Llwyddo* neu beidio. Bydd cyfle i ddysgu mwy am sut mae Llwyddo* yn cael ei ddarparu mewn gwahanol leoliadau.
Yr hyn y mae angen i chi ei wybod
7 Mawrth 2019 | 10.00am - 12.30pm
Manteision mynychu
​
-
Bydd y siaradwyr gwadd yn rhannu eu harferion da
-
Sesiwn holi ac ateb rhyngweithiol
-
Cyfle i rwydweithio gydag athrawon sydd eisoes yn cyflwyno neu'n ystyried cyflwyno Rhaglen Llwyddo*
-
Bydd Dilysyddion Mewnol Rhaglen Llwyddo* wrth law i ateb eich cwestiynau
-
Goody bags a thalebau gostyngiad ar adnoddau
-
Lluniaeth am ddim
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu!
​
ARCHEBWCH LE
Llwyddiant tîm Lwyddo* yn ein Hadolygiad Rheoli Ansawdd
Cawsom ein hymweliad Adolygiad Rheoli Ansawdd blynyddol gan Pearson ar 9 Ionawr 2019. Cynhaliwyd yr ymweliad hwn i sicrhau ein bod yn cyflawni safonau rheoli ansawdd uchel.
Yn yr adroddiad a dderbyniwyd yr wythnos diwethaf, disgrifiwyd yr adnodd dysgu ac addysgu Llwyddo* fel 'ardderchog' a ni chafwyd unrhyw gamau gweithredu!
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i'n holl ganolfannau ac i’n haseswyr am eu hadborth a'u cydweithrediad dros y 12 mis diwethaf. Mae eich ymgysylltiad â'n prosesau yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
Gweithdy menter yn creu entrepreneuriaid y dyfodol!
Mwynhaodd myfyrwyr Ysgol Gyfun Penyrheol yng Ngorseinon ddiwrnod gwych o weithgareddau menter, busnes a phynciau STEM wrth iddynt weithio gyda'i gilydd ar fenter Enterprise Soapbox yn ddiweddar.
​
Bu 35 o fyfyrwyr o Gyfnodau Allweddol 3 a 4 yn gweithio gyda'i gilydd ar y sesiwn addysgol draws-gwricwlaidd lle’r oedd yn rhaid iddynt gynllunio, dylunio, cynhyrchu, pecynnu, a hyrwyddo cynnyrch sebon go iawn.
Gwnaed y gweithgaredd yn bosib wedi i ddau gyn-disgybl ennill gwobrau yng Nghystadleudaeth Llwyddo* ym mis Medi 2018.
​
Fel rhan o'r gweithdy, roedd yn rhaid i'r dysgwyr ddefnyddio sgiliau gan gynnwys cyfathrebu, creadigrwydd, arweinyddiaeth a threfniadaeth yn ogystal â gweithio o fewn amser penodol ac o dan bwysau. Fe wnaethon nhw fwynhau’n fawr agweddau datblygu brand a dylunio cynnyrch lle cawsant hwyl wrth fod yn greadigol! Dewiswyd un tîm buddugol gan Ddilysydd Mewnol Llwyddo* Martin Griffiths yn seiliedig ar ddefnydd addas y 5 P marchnata.
​
Mae'r sgiliau ymarferol a bywyd y mae'r myfyrwyr wedi'u dysgu yn dilyn Rhaglen Llwyddo* wedi'u cynllunio i’w galluogi i ddefnyddio fel maent yn symud ymlaen â chyfleoedd addysg a chyflogaeth.
​
Cysylltwch â Martin.Griffiths@portaltraining.co.uk am ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth flynyddol gyffrous hon.
Cyfle cyffrous i fyfyrwyr yn Abertawe!
Ddydd Mercher 16 Ionawr, bydd myfyrwyr Ysgol Gyfun Penyrheol, Gorseinon yn mwynhau diwrnod gwych o weithgareddau menter, busnes a phynciau STEM wrth iddynt weithio gyda'i gilydd ar fenter Enterprise Soapbox.
Mae’r gweithgaredd hwn yn deillio wedi’i ddau gyn-ddisgybl ennill gwobrau wrth ddilyn rhaglen adnoddau arloesol Llwyddo*, adnodd sy’n cynnig cymwysterau datblygiad personol a chymdeithasol.
Gwobrwywyd Sandy Saunders fel Myfyriwr Rhagorol Llwyddo*. Ac enillodd Lee Rayner Wobr Cyflawniad Rhagoriaeth.
“Rydym wrth ein bodd yn gweld yr effaith y mae'r Rhaglen Llwyddo* yn ei gael ar ddysgwyr o bob gallu o bob cwr o Gymru, fel y gwelir yn yr enillwyr buddugol Sandy a Lee. Rydym yn falch o allu darparu cyfle addysgol mor gyffrous i'r myfyrwyr yn Ysgol Gyfun Penyrheol, er mwyn gallu gweithredu'r sgiliau y maent wedi'u dysgu. ”
​
Gwawr Booth, Rheolwr Gyfarwyddwr, Portal Training
Mae Enterprise Soapbox yn weithdy addysgol trawsgwricwlaidd ar gyfer mentergarwch, busnes neu bynciau STEM lle mae myfyrwyr yn gweithio gyda'i gilydd i ddychmygu, cynllunio, dylunio, cynhyrchu, pecynnu, hyrwyddo a hyd yn oed gychwyn eu cynnyrch sebon go iawn!
Bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i weithio fel tîm gyda rolau a nodau busnes realistig. Mae gweithdai Enterprise Soapbox yn gysyniad rhagorol gan fod angen defnyddio creadigrwydd, ymarferoldeb, sgiliau dylunio, cyllid ac arweinyddiaeth i gyd o dan bwysau amser i gyrraedd y nod y fenter. Bydd y sesiwn yn ymarfer y sgiliau ymarferol gwych mae'r myfyrwyr wedi'u dysgu fel rhan o'r rhaglen Llwyddo* BTEC Lefel 1 /2 y buont yn ei ddilyn.
​
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch Martin.Griffiths@portaltraining.co.uk
Pwy sy'n Llwyddo?
Oeddech chi'n gwybod bod dwy ran o dair o ysgolion uwchradd yng Nghymru ar hyn o bryd yn cyflwyno'r Rhaglen Llwyddo*?
Mae ein map rhyngweithiol yn tynnu sylw at dros 160 o ganolfannau ledled Cymru a Lloegr ar hyn o bryd yn cyflwyno'r raglen.
​
Darganfyddwch Fwy
​
Ydych chi wedi archebu'ch apwyntiad Dilysu Mewnol (IV) eto?
Dilysu mewnol yw'r broses lle rydym yn sicrhau bod gwaith dysgwr yn cwrdd â safonau cenedlaethol trwy wirio sampl yn fewnol. Os nad ydych wedi archebu apwyntiad eto, sicrhewch wneud hynny cyn gynted ag y bo modd.
Manylion cyswllt ar gyfer eich Gwirwr Mewnol Sweet * ymroddedig.
Cyfarfod "TeachMeet" Llwyddo* yn lwyddiant mawr
Roedd y cyfarfod "TeachMeet" a gynhaliwyd yn ein pencadlys yng Nghaerdydd yn fore gwych, a chyfle gwych i'n canolfannau rwydweithio. Diolch yn fawr iawn i Fran Shopland o Ysgol Sant Martin a Greg Beasley o Gymuned Ddysgu Abertyleri am eu cyfraniadau i'r sesiwn.
​
Cynhelir ein cyfarfod "TeachMeet" nesaf yng Ngwanwyn 2019 i ganolfannau yng Ngorllewin Cymru, gyda manylion pellach i'w dilyn. Yn y cyfamser, cysylltwch â Lindsay i ddarganfod mwy.
Lindsay Donovan-Lacey | Lindsay.donovan-lacey@portaltraining.co.uk | 07398 722 308
​