BTEC Lefel 1 a Lefel 2

Mae Llwyddo* Lefel 1 a Lefel 2 yn adnodd cynhwysfawr sy’n cefnogi ysgolion uwchradd prif ffrwd, Unedau Cyfeirio Disgyblion a sefydliadau addysgol eraill i gyflwyno canlyniadau dysgu ABCh a Bagloriaeth Cymru. 

​

Mae’r pum pennod cyntaf yn canolbwyntio ar ABCh ac yn cael eu cyflwyno ar Lefel 1. Mae tair pennod arall yn adlewyrchu ar Heriau Sgiliau Bagloriaeth Cymru a gellir eu gwneud naill ai ar Lefel 1 neu Lefel 2, yn dibynnu ar allu ac anghenion y dysgwr.

Penodau Craidd ABCh

Hunaniaeth Bersonol

Rheoli Perthnasau

Byw'n Iach

Symud Ymlaen

Materion Ariannol

Penodau Bagloriaeth Cymru

Dinasyddiaeth Fyd-eang

Cymuned

Menter a Chyflogadwyedd

Mesurau Perfformiad yng Nghymru  

 

Yn ogystal â chefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau pwysig a dealltwriaeth, mae’r cymwysterau yn yr adnodd yn cyfrannu at fesurau perfformiad yng Nghymru.

Costau

Adnodd

​

Mae adnodd Lefel 1 a 2 ar gael yn Gymraeg a Saesneg a gellir ei gyflwyno fel rhan o wersi Addysg Bersonol a Chymdeithasol a Bagloriaeth Cymru. Gellir hefyd cyflwyno’r adnodd ar wahân i’r rhain fel pwnc galwedigaethol.

 

Mae 8 pennod ar gael, wedi eu hargraffu mewn llyfrynnau wedi eu codio mewn lliwiau a’u cyflwyno mewn ffolder proffesiynol y gellir ei ddefnyddio i storio gwaith y dysgwyr wrth i’r cymhwyster gael ei gyflwyno.

 

Mae pob pennod yn cynnwys briffiau aseiniadau ar gyfer y BTEC Lefel 1 a Lefel 2 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol. Darperir adnoddau ychwanegol fel cynlluniau gwaith, cyflwyniadau PowerPoint, sesiynau cychwyn a llawn hefyd wrth gofrestru dysgwyr, gan arbed amser cynllunio gwerthfawr i’r staff addysgu.

 

Cost £19.95 y dysgwr (wedi ei eithrio rhag TAW)

​

Cofrestru ar gyfer BTEC

 

Rydym yn cynnig gwasanaeth wedi ei reoli’n llawn.  Mae hyn yn cynnwys gweinyddu, cofrestru, dilysu mewnol, achrediad ac ardystiad. Byddwch hefyd yn cael Dilysydd Mewnol Llwyddo* fydd yn rhoi cymorth wedi ei deilwra i chi yn barhaus trwy gydol cyflwyno’r cymhwyster.

​

  • Dyfarniad Lefel 1 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £27.50 y dysgwr + TAW 
    ​

  • Dyfarniad Lefel 2 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £36.50 y dysgwr + TAW 
     

  • Tystysgrif Lefel 1 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £41.50 y dysgwr + TAW 
     

  • Tystysgrif Lefel 2 Pearson Edexcel mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol - £62.00 y dysgwr + TAW 

Hyfforddiant

Hyfforddiant yn Portal Training, Caerdydd


Yn cynnwys sesiwn hyfforddiant diwrnod cyfan a gynhelir yn swyddfeydd Portal. Yn cynnwys eich holl ddeunydd cwrs, pecyn i athrawon, gwybodaeth am ganllawiau asesu, cinio a lluniaeth. 

​

Person cyntaf fesul canolfan - Â£250 + TAW 
Personau ychwanegol fesul canolfan - Â£75 + TAW

​

Hyfforddiant ar y safle yn eich canolfan


Yn cynnwys sesiwn hyfforddiant 2 awr, wedi ei chrynhoi a gynhelir yn eich canolfan. Yn cynnwys eich holl ddeunydd cwrs, pecyn i athrawon a gwybodaeth am ganllawiau asesu. 

​

Person cyntaf fesul canolfan - £150 + TAW
Personau ychwanegol fesul canolfan - £50 + TAW 

Portal logo white

Mae Llwyddo* yn ran o deulu Portal

Portal Training, Ocean Park House

East Tyndall Street, Caerdydd,
CF24 5ET
029 2047 4060 

info@sweet.education