Gwobrau Cyrhaeddiad Llwyddo* 2019
Categorïau a Meini Prawf Beirniadu
Mae manylion pob categori a'r meini prawf beirniadu cysylltiedig isod:
Dysgwr Sweet* y Flwyddyn
Gall y Dysgwr ddangos:
eu bod wedi datblygu sgiliau bywyd pwysig wrth gwblhau Sweet*, a sut y mae hyn wedi cael effaith bositif arnyn nhw a'u dyfodol;
eu bod wedi datblygu sgiliau cyflogadwyedd pwysig wrth gwblhau Sweet*, a sut y mae hyn wedi cael effaith bositif arnyn nhw a'u dyfodol;
a
eu bod wedi datblygu eu llesiant personol wrth gwblhau Sweet*, a sut y mae hyn wedi cael effaith bositif arnyn nhw a'u dyfodol.
Meini Prawf Beirniadu
Adnabod y sgiliau bywyd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Sweet*. Disgrifio effaith a/neu effaith debygol y rhain arnyn nhw a’u dyfodol.
Adnabod y sgiliau cyflogadwyedd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Sweet*. Disgrifio effaith a/neu effaith debygol y rhain arnyn nhw a'u dyfodol.
Adnabod sut y mae llesiant y dysgwr wedi gwella wrth gwblhau Sweet*. Disgrifio effaith a/neu effaith debygol hyn arnyn nhw a'u dyfodol.
Dysgwr Llwyddo* y Flwyddyn
Gall y Dysgwr ddangos:
eu bod wedi datblygu sgiliau bywyd pwysig wrth gwblhau Llwyddo*, a sut y mae hyn wedi cael effaith bositif arnyn nhw a'u dyfodol;
eu bod wedi datblygu sgiliau cyflogadwyedd pwysig wrth gwblhau Llwyddo*, a sut y mae hyn wedi cael effaith bositif arnyn nhw a'u dyfodol; a
eu bod wedi datblygu eu llesiant personol wrth gwblhau Llwyddo*, a sut y mae hyn wedi cael effaith bositif arnyn nhw a'u dyfodol.
Meini Prawf Beirniadu
Adnabod y sgiliau bywyd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Llwyddo*. Disgrifio effaith a/neu effaith debygol y rhain arnyn nhw a'u dyfodol.
Adnabod y sgiliau cyflogadwyedd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Llwyddo*. Disgrifio effaith a/neu effaith debygol y rhain arnyn nhw a'u dyfodol.
Adnabod sut y mae llesiant y dysgwr wedi gwella wrth gwblhau Llwyddo*. Disgrifio effaith a/neu effaith debygol hyn arnyn nhw a'u dyfodol.
Gwobr Cynnydd Eithriadol
Gall y dysgwr ddangos:
eu bod wedi gwneud cynnydd neilltuol wrth ddatblygu'r sgiliau cyflogadwyedd y mae arnynt eu hangen i lwyddo fel cyflogeion yn y dyfodol;
eu bod wedi gwneud cynnydd neilltuol wrth ddatblygu'r sgiliau personol, cymdeithasol a bywyd y mae arnynt eu hangen i ddod yn ddinasyddion gweithgar ac ymgysylltiol yn y dyfodol;
a
eu bod wedi gwneud cynnydd neilltuol yn eu hymgysylltiad â dysgu a/neu weithgareddau allgyrsiol, tu mewn a/neu du allan i'r ysgol neu'r lleoliad addysg.
Meini Prawf Beirniadu
Adnabod y sgiliau cyflogadwyedd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*
Disgrifio pam y mae'r sgiliau hyn yn ddeniadol i gyflogwyr.
Disgrifio sut y mae'r sgiliau hyn yn debygol o fod o gymorth i’r dysgwr i gael swydd yn y dyfodol.
Esbonio sut y bydd y sgiliau hyn yn helpu'r dysgwr i fod yn gyflogai llwyddiannus.
Adnabod y sgiliau personol a chymdeithasol y mae'r dysgwr wedi eu datblygu.
Esbonio sut y mae'r sgiliau hyn wedi helpu'r dysgwr i ddatblygu perthnasoedd gyda ffrindiau, teulu, cydweithwyr, athrawon a/neu gymheiriaid.
Adnabod y sgiliau bywyd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu.
Esbonio sut y bydd y sgiliau hyn yn gymorth i'r dysgwr ddod yn ddinesydd gweithgar, er enghraifft trwy ddeall y broses bleidleisio a chymryd rhan ynddi, neu wirfoddoli yn y gymuned.
Esbonio sut y mae'r Rhaglen Llwyddo*/Sweet* wedi cefnogi'r dysgwr i ymgysylltu'n fwy yn eu dysgu.
Esbonio sut y mae'r Rhaglen Llwyddo*/Sweet* wedi cefnogi'r dysgwr i ymgysylltu'n fwy mewn gweithgareddau allgyrsiol (tu mewn i'r lleoliad addysg a thu allan iddo).
Gwobr Hyrwyddwr Lles
Gall y dysgwr ddangos:
bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o sut i gynnal eu hiechyd corfforol eu hunain, gan gynnwys pwysigrwydd diet, ymarfer corff ac osgoi ymddygiad risg uchel, a sut y mae Llwyddo*/Sweet* wedi bod o gymorth iddynt wrth ddatblygu'r ddealltwriaeth hon;
bod ganddynt ddealltwriaeth gadarn o sut i gynnal eu hiechyd a'u lles meddyliol eu hunain a sut y mae Llwyddo*/Sweet* wedi bod o gymorth iddynt wrth ddatblygu eu hyder a'u hunan-barch;
a
eu bod wedi datblygu'r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i'w helpu i ffurfio perthnasoedd positif gydag amrywiaeth o bobl, gan gynnwys y rheiny o gefndiroedd gwahanol.
Meini Prawf Beirniadu
Amlinellu'r hyn y mae'r dysgwr wedi ei ddysgu am iechyd corfforol wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*.
Disgrifio'r newidiadau y mae'r dysgwr wedi eu gwneud i'w ffordd o fyw o ganlyniad.
Amlinellu'r hyn y mae'r dysgwr wedi ei ddysgu am iechyd a lles meddyliol wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*.
Disgrifio'r newidiadau y mae'r dysgwr wedi eu gwneud i'w ffordd o fyw o ganlyniad.
Esbonio'r gwelliannau a welwyd yn hunan-barch a hyder y dysgwr ers dechrau ar raglen astudio Llwyddo*/Sweet*.
Disgrifio'r sgiliau cyfathrebu y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*.
Esbonio effaith y sgiliau cyfathrebu hyn ar berthynas y dysgwr gyda ffrindiau, aelodau'r teulu, athrawon a/neu gymheiriaid.
Gwobr Myfyriwr Creadigol
Gall y dysgwr ddangos:
eu bod wedi datblygu ystod o sgiliau bywyd a sgiliau cyflogadwyedd wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*;
eu bod yn gallu nodi buddion cwblhau Rhaglen Llwyddo*/Sweet*;
a
eu bod yn gallu dangos yr wybodaeth hon mewn ffordd ddeniadol sy'n denu'r llygad.
Meini Prawf Beirniadu
Amlinellu'r sgiliau bywyd a chyflogadwyedd a ddatblygir wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*.
Adnabod buddion cwblhau Rhaglen Llwyddo*/Sweet* ar gyfer bywyd personol y dysgwr.
Adnabod buddion cwblhau Rhaglen Llwyddo*/Sweet* ar gyfer bywyd proffesiynol y dysgwr (addysg neu waith).
Dylid cyflwyno'r ceisiadau mewn ffordd ddiddorol, sy'n denu'r llygad, naill ai fel poster, taflen, fideo neu debyg.
Defnydd priodol o liwiau, lluniau a logos i'w cynnwys yn y ceisiadau, gan adlewyrchu'r brand Llwyddo*/Sweet*.
Dylid anodi delweddau a diagramau er mwyn esbonio pam y cawsant eu dewis.
Dylid defnyddio penawdau ac is-benawdau mewn ffordd addas, er mwyn sicrhau bod y gwaith a gyflwynir yn ddeniadol i'r llygad a bod yr wybodaeth yn hawdd ei gweld.
Gwobr Cyflawniad Rhagoriaeth
Gall y dysgwr ddangos:
eu bod wedi datblygu dewis o sgiliau bywyd wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet* a sut y mae'r rhain wedi eu cefnogi i gyflawni mewn meysydd eraill yn eu bywydau;
eu bod wedi datblygu dewis o sgiliau cyflogadwyedd wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet* a sut y mae'r rhain wedi eu cefnogi i gyflawni mewn meysydd eraill yn eu bywydau; a
eu bod wedi datblygu dewis o sgiliau cymdeithasol wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet* a sut y mae'r rhain wedi eu cefnogi i gyflawni mewn meysydd eraill yn eu bywydau.
Meini Prawf Beirniadu
Adnabod y sgiliau bywyd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*.
Esbonio sut y mae'r sgiliau bywyd hyn wedi galluogi'r dysgwr i gyflawni rhywbeth na fyddent wedi gallu ei gyflawni cyn hynny.
Adnabod y sgiliau cyflogadwyedd y mae'r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*.
Esbonio sut y mae'r sgiliau cyflogadwyedd hyn wedi galluogi'r dysgwr i gyflawni rhywbeth na fyddent wedi gallu ei gyflawni cyn hynny.
Adnabod y sgiliau cymdeithasol y mae’r dysgwr wedi eu datblygu wrth gwblhau Llwyddo*/Sweet*.
Esbonio sut y mae'r sgiliau cymdeithasol hyn wedi galluogi'r dysgwr i gyflawni rhywbeth na fyddent wedi gallu ei gyflawni cyn hynny.
Gwobr Aseswr Eithriadol
Gall yr Aseswr ddangos:
eu bod wedi cefnogi dysgwyr i ddatblygu sgiliau bywyd, cyflogadwyedd a chymdeithasol pwysig trwy gyflwyno'r Rhaglen Llwyddo*/Sweet* mewn ffordd sy'n ddiddorol i bob dysgwr ac yn ymgysylltu â nhw;
eu bod wedi defnyddio deunyddiau cymorth ychwanegol a ddarparwyd gan Llwyddo*/Sweet*, neu wedi creu eu deunyddiau eu hunain, er mwyn sicrhau bod y cwrs yn ymgysylltu â phob dysgwr ac yn hygyrch i bob dysgwr;
a
eu bod wedi siarad am Llwyddo*/Sweet* yn llawn brwdfrydedd, a hynny gyda dysgwyr a chydweithwyr, er mwyn annog myfyrwyr i gymryd rhan yn y Rhaglen fel eu bod yn cyflawni'r deilliannau gorau posibl.
Meini Prawf Beirniadu
Esbonio sut y mae'r Aseswr wedi cyflwyno Rhaglen Llwyddo*/Sweet*, neu yn cyflwyno'r Rhaglen ar hyn bryd, fel ei bod yn ddiddorol i bob dysgwr ac yn ymgysylltu â phob dysgwr.
Gwerthuso'r sgiliau y mae'r dysgwr wedi eu datblygu, gan ystyried y sgiliau a ddatblygwyd fwyaf, a'r rheiny y gellid eu datblygu o hyd.
Disgrifio manylion unrhyw addasiadau a wnaed i'r adnoddau gan yr Aseswr er mwyn sicrhau bod y gweithgareddau yn hygyrch i bob dysgwr.
Amlinellu'r deunyddiau ychwanegol y mae'r Aseswr wedi eu defnyddio i gefnogi cyflwyniad y rhaglen (naill i'r rheiny a ddarparwyd gan Llwyddo*/Sweet*, neu'r rhai a grëwyd ar wahân) ac esbonio sut y mae'r rhain wedi cael effaith bositif ar y dull o gyflwyno’r Rhaglen.
Disgrifio sut y mae'r Aseswr wedi codi proffil Llwyddo*/Sweet* yn y ganolfan (er enghraifft, trwy gynnig gweithgareddau cymunedol neu fenter).
Esbonio sut y mae'r Aseswr wedi ymgysylltu â dysgwyr ac aelodau eraill o staff, wrth gyflwyno’r Rhaglen Llwyddo*/Sweet*.
Gwobr Canolfan Eithriadol
Gall y Ganolfan ddangos:
ei bod wedi neilltuo digon o amser i gwblhau'r Rhaglen ac wedi sicrhau bod aseswyr yn llawn ysgogiad ac wedi eu harfogi â’r sgiliau, yr wybodaeth a'r deunyddiau angenrheidiol er mwyn cyflwyno'r Rhaglen yn llwyddiannus;
ei bod wedi darparu profiad holistaidd ar gyfer y dysgwyr ac wedi caniatáu ac annog dysgwyr i fynd i gyflwyniadau gan asiantaethau allanol, neu wedi hwyluso'r rhain yn y ganolfan;
a
ei bod wedi ymgysylltu â Thîm Llwyddo*/Sweet* trwy roi adborth ar gyflwyniad y Rhaglen, er mwyn cefnogi'r broses o wella'n barhaus. Efallai ei bod wedi dod i Gyfarfodydd Addysgu Llwyddo*/Sweet* neu wedi eu cefnogi, neu wedi rhwydweithio gyda chanolfannau eraill, er enghraifft.
Meini Prawf Beirniadu
Esbonio sut y penderfynwyd ar y model gorau ar gyfer cyflwyno Rhaglen Llwyddo*/Sweet* yn eich canolfan.
Esbonio sut y penderfynwyd ar yr aelodau mwyaf priodol o staff i gyflwyno'r Rhaglen neu agweddau ar y Rhaglen.
Gwerthuso llwyddiant y model a ddefnyddiwyd i gyflwyno'r Rhaglen Llwyddo*/Sweet*.
Disgrifio sut y mae dysgwyr wedi cael eu hannog i gymryd rhan mewn cyflwyniadau, tasgau neu weithgareddau allgyrsiol ychwanegol er mwyn cyfoethogi eu siwrnai ddysgu.
Esbonio effaith hyn ar brofiadau'r dysgwyr.
Amlinellu sut y mae'r ganolfan wedi ymgysylltu â Thîm Llwyddo*/Sweet* i gyfoethogi'r profiad o gyflwyno'r Rhaglen (er enghraifft, trwy geisio cymorth, mynd i ddigwyddiadau neu rwydweithio gyda chanolfannau eraill sy'n cyflwyno'r Rhaglen).
Esbonio effaith hyn ar brofiad y ganolfan o gyflwyno'r Rhaglen.
Amlinellu sut y mae'r ganolfan wedi ymgysylltu â Thîm Llwyddo*/Sweet* fel cymorth i wella'r Rhaglen yn y dyfodol (e.e. trwy gynnig adborth ac awgrymiadau ynghylch meysydd i'w gwella).