top of page

Cwestiynau cyffredin

A oes gennych chi gwestiwn? Dyma rai o’r cwestiynau mwyaf cyffredin, fydd yn ddefnyddiol i chi, gobeithio. Am bob ymholiad arall, cysylltwch ag aelod o’r Tîm.

Artboard 9_2x.png

1. A oes angen hyfforddiant arnaf i gyflwyno Rhaglen Llwyddo?

Oes, darperir hyfforddiant gorfodol i’ch helpu i baratoi ar gyfer cyflwyno Rhaglen Llwyddo i’ch dysgwyr. Mae’r hyfforddiant yn gyfle i adolygu’r adnoddau, eu cyflwyno a’u hasesu er mwyn sicrhau eich bod yn teimlo’n hyderus ac yn gymwys. Ewch i’n Tudalen Hyfforddiant am fanylion.

​

2. A oes angen i bob aelod o’r staff sy’n cyflwyno Rhaglen Llwyddo fynychu hyfforddiant?

Rydym yn argymell bod yr holl staff ffydd yn cyflwyno Rhaglen Llwyddo yn mynychu’r hyfforddiant. Yn achos cohortau mawr o fyfyrwyr, gall cynrychiolwyr fynychu’r hyfforddiant a rhaeadru’r wybodaeth i weddill y tîm cyflwyno.

​

3. Sut wyf yn cofrestru dysgwyr?

Bydd eich cyswllt Llwyddo neilltuol yn cofrestru’r holl ddysgwyr ar ran eich canolfan. Rhowch rywfaint o wybodaeth sylfaenol trwy lenwi’r daenlen gofrestru a geir yn ffolder OneDrive eich canolfan.

​

4. A wyf yn gallu cofrestru dysgwyr fy hun?

Mae’n rhaid i’r dysgwyr fod wedi eu cofrestru trwy Portal Training am mai ni sy’n rheoli’r broses ansawdd, yn cwblhau’r broses dilysu mewnol ac yn hawlio ar ran eich dysgwyr ar ôl iddynt orffen. Os yw’r dysgwyr wedi eu cofrestru’n uniongyrchol trwy eich canolfan, bydd angen i chi gynnal a rheoli’r broses dilysu mewnol ac ymweliadau cysylltiedig Pearson.

 

5. A oes terfyn amser o ran yr amser sydd gan ddysgwyr i gwblhau’r cymhwyster?

O’r adeg y bydd dysgwr wedi cofrestru bydd ganddynt 5 mlynedd i gwblhau’r cymhwyster.

 

6. A yw fy nghanolfan yn gallu cyflwyno Rhaglen Llwyddo i ddysgwyr Cyfnod Allweddol 3?

Ydy! Mae nifer o ganolfannau bellach yn dewis cyflwyno Rhaglen Llwyddo fel rhan o’u gwersi ABCh. Cysylltwch â ni am fwy o wybodaeth am y ffordd y gallwch wneud hyn yn eich canolfan.

​

7. Pam mae angen dilysu gwaith dysgwr yn fewnol?

Mae dilysu mewnol yn sicrhau bod gwaith dysgwr wedi cael ei asesu’n gywir i safonau cenedlaethol ac mae’r asesiad hwnnw’n gyson ar draws y Rhaglen.

​

8. A oes angen i’m canolfan i gynnal dilysiad mewnol?

Nac oes. Bydd eich Dilysydd Mewnol Llwyddo neilltuol yn gwneud hyn trwy ymweld â’ch canolfan ar ddyddiad y cytunwyd arno.  Nid oes angen i chi anfon eich sampl atom. Os hoffech wneud cymedroli mewnol i sicrhau bod ansawdd gwaith o safon ddigonol, gallwch wneud hynny yn ôl eich disgresiwn eich hun.

​

9. Sawl apwyntiad dilysu mewnol fydd eu hangen a phryd fyddant yn cael eu cynnal?

Cynhelir tri apwyntiad dilysu mewnol wrth gyflwyno’r cymhwyster. Cynhelir dau apwyntiad ffurfiannol tua hanner ffordd a bydd y rhain yn ymweliadau cefnogol ac yn eich galluogi i ofyn cwestiynau. Cynhelir yr ymweliad cyfansymiol pan fydd yr holl unedau wedi cael eu cwblhau.  Mae’r apwyntiadau’n cael eu cynllunio fel nad yw’r dilysu mewnol ar y diwedd.

 

10. Sut caiff y sampl ei dewis?

Defnyddir cynllun samplu lletraws. Mae hyn yn sicrhau bod yr holl ddysgwyr, yr unedau a’r aseswyr yn cael eu dilysu’n fewnol ar ryw adeg yn ystod y Rhaglen.

Mae’r canolfannau wedi eu graddio yn ôl RAG. Bydd maint y sampl yn cynyddu os oes angen cymorth ychwanegol ar ganolfan. Mae gan Ganolfannau Gwyrdd faint sampl o 20 - 25%, mae gan Ganolfannau Ambr faint sampl o 50% a Chanolfannau Coch faint sampl o 100%. Pan fydd dysgwyr ychwanegol yn cael eu cofrestru, caiff eich Cynllun Asesu ei ddiweddaru i adlewyrchu hyn.

​

11. Ble gallaf ddod o hyd i’r sampl?

Mae’r sampl wedi ei amlygu yn y Cynllun Asesu a geir yn ffolder OneDrive neilltuol eich canolfan.

​

12. Beth fydd yn digwydd yn ystod yr apwyntiad dilysu mewnol?

Bydd angen man tawel i weithio ar eich Dilysydd Mewnol yn ystod yr apwyntiad, fydd yn cymryd rhwng 1 a 6 awr i’w gwblhau, yn dibynnu ar faint eich cohort.

Bydd y sampl y gwneir cais amdani’n cael ei gwirio am gywirdeb asesu, dilysrwydd gwaith y dysgwr, a bod y data gweinyddol allweddol a’r datganiadau dilysrwydd wedi cael eu cwblhau.

Caiff adroddiad adborth ei rannu gyda chi ar ddiwedd yr apwyntiad.  Bydd o fudd i chi ddyrannu 15 munud i gyfarfod â’ch Dilysydd Mewnol, er mwyn iddynt allu trafod unrhyw weithredoedd neu argymhellion gyda chi ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

​

13. Mae angen i mi aildrefnu fy apwyntiad dilysu mewnol! Faint o rybudd sydd angen i mi ei roi?

Lle y bo’n bosibl, rhowch o leiaf 48 awr o rybudd.

​

14. Faint o oriau dysgu o dan arweiniad a argymhellir ar gyfer pob cymhwyster?

Mae 10 awr o ddysgu o dan arweiniad ynghlwm wrth bob credyd. Mae 60 o oriau dysgu o dan arweiniad ynghlwm wrth gymhwyster Dyfarniad Lefel 1 a Lefel 2 a 130 o oriau dysgu o dan arweiniad ynghlwm wrth gymhwyster Tystysgrif Lefel 1 a Lefel 2. Dyma’r nifer o oriau dysgu a argymhellir.

​

15. A oes angen cwblhau’r holl weithgareddau yn y pecyn hwn?

Rydym yn argymell cwblhau pob un gweithgaredd i sicrhau bod y meini prawf asesu yn cael eu bodloni'n gadarn. Mae rhai gweithgareddau wedi'u cynnwys fel camau adeiladol i gefnogi cwrdd â meini prawf addysgu a dysgu Cwricwlwm Addysg Bersonol a Chymdeithasol neu Fagloriaeth Cymru (yn y meini prawf Lefel 1 a Lefel 2). Efallai na fydd y gweithgareddau hyn yn cael eu hasesu ac felly nid ydynt yn cyfrannu tuag at y cymhwyster BTEC. 

​

16. A allaf ddefnyddio tystiolaeth ychwanegol?

Gellir defnyddio tystiolaeth ychwanegol i gyflawni’r meini prawf asesu trwy gydol y penodau, ond nid yw’n angenrheidiol os yw’r gweithgareddau wedi cael eu cwblhau i safon ddigonol. Os ydych yn teimlo bod y dysgwr wedi cyflawni’r meini prawf asesu trwy bynciau eraill e.e. Bagloriaeth Cymru, dylech sicrhau bod y gwaith ar gael ac wedi ei gyfeirio’n glir yn ystod y broses dilysu mewnol.

​

17. Rwy’n cyflwyno Llwyddo ond mae angen mwy o gymorth, ble gallaf ddod o hyd i hyn?

Gofynnwch i’r Prif Asesydd yn eich canolfan i rannu ffolder OneDrive Rhannu Llwyddo gyda chi. 

Os ydych yn ansicr pwy yw’r Prif Asesydd yn eich canolfan, cysylltwch ag aelod o Dîm Llwyddo.

​

​19. Pa ddogfennau sydd wedi eu cadw yn ffolder rhannu Llwyddo a phwy sydd â mynediad i hwn?

Mae gan bob canolfan sydd wedi cofrestru dysgwyr trwy Portal mynediad i’r ffolder hwn. O fewn y ffolder hwn mae: 

  • PowerPoints cyflenwi ar gyfer pob uned 

  • Tasgau cychwynnol ar gyfer pob uned 

  • Cynllun gwaith 

  • Cynllun marcio 

  • Mat asesu berfau

  • Map sgiliau 

  • Cofnodion gwag o weithgareddau 

  • Polisïau 

  • Fideos Cwestiynau Cyffredin 

​​

20. Pa ddogfennau sy’n cael eu cadw yn ffolder OneDrive mynediad cyfyngedig fy nghanolfan a phwy sydd â mynediad i hwn?

Bydd gan y Prif Asesydd yn eich canolfan fynediad i ffolder OneDrive eich canolfan.  Yn y ffolder hwn fe welwch:

  • Eich cynllun asesu

  • Rhestr o aseswyr

  • Adborth Dilysu Mewnol

  • Copi o Gytundeb Partneriaeth Llwyddo

  • Deunydd safoni ar-lein

Mae mynediad cyfyngedig i’r ffolder hwn at ddibenion GDPR. Bydd eich Prif Asesydd yn gallu rhannu’r deunyddiau safoni ar-lein gyda chi.

​

21. Beth yw Cytundeb Partneriaeth Llwyddo?

Bwriad y ddogfen hon yw egluro’r mecanweithiau cymorth sy’n cael eu cynnig trwy hyfforddiant Portal ac mae hefyd yn amlygu’r amodau sy’n ofynnol gan bob canolfan gyflenwi.  Mae’n cynnwys y canllawiau yn ymwneud â hyfforddiant sefydlu, cofrestru prydlon, asesu ac adborth, dilysu mewnol, diogelu, PREVENT a GDPR ymysg meysydd eraill. Mae’n rhaid i bob canolfan lofnodi Cytundeb Partneriaeth Llwyddo cyn cyflwyno. Mae copi o Gytundeb y Bartneriaeth yn ffolder OneDrive mynediad cyfyngedig eich canolfan.

​

22. Beth yw diben y deunydd safoni ar-lein?

Mae deunyddiau safoni ar-lein yn rhoi'r cyfle i wneud penderfyniadau asesu yn seiliedig ar enghreifftiau o waith dysgwr. Ar ôl i chi gael mynediad at y PowerPoints ymarfer safoni, dylech gwblhau'r cwis ar-lein. Gellir cwblhau'r rhain fel asesydd unigol neu o fewn grwpiau. 

​

Bydd deunyddiau ar gyfer yr adnodd E3 ar gael o Fedi 2020. Yn y cyfamser, bydd sesiynau safoni yn cael eu cyflwyno'n bersonol. 

​

23. A fyddaf yn cael cyfle i roi adborth ar raglen Llwyddo?

Rydym bob amser yn croesawu adborth gan ein dysgwyr, cyflwynwyr a chanolfannau am fod hyn yn ein galluogi i wella rhaglen Llwyddo yn barhaus. 

Gallwch roi adborth parhaus i Ddilysydd mewnol Llwyddo yn ystod apwyntiadau ac efallai y gofynnir i chi gwblhau holiadur byr hefyd. Gofynnir am adborth ffurfiol pan fydd eich dysgwyr wedi cwblhau’r cymhwyster gan aseswyr a dysgwyr. Anfonir yr holiaduron yn electronig ym mis Mai.

​

24. Beth yw’r meini prawf ar gyfer canolfannau graddio RAG a sut caiff hyn ei ddefnyddio?

Mae meini prawf graddio RAG ar gael yn y tabl isod. Bydd eich Dilysydd Mewnol Llwyddo yn defnyddio’r tabl hwn ac yn ffurfio barn yn seiliedig ar eich lleoliad o fewn y categorïau. Os byddwch yn y categori ‘gwyrdd’ ar gyfer y rhan fwyaf, rydych yn debygol o fod yn ganolfan ‘werdd’. Ond, gall achosion difrifol o lên-ladrad a chamymddwyn eich gwneud yn ‘goch’ os oes gennym bryderon yn ymwneud â dilysrwydd gwaith dysgwr.

​

​

Llwytho copi o Feini Prawf RAG

bottom of page